“Rhoddais wirioneddau pwysig i’r byd, a dim ond oherwydd diffyg dealltwriaeth y cawsant eu hanwybyddu. Roeddwn o flaen fy amser.”

Yn 2008 cofir can mlwyddiant a hanner marw Robert Owen o’r Drenewydd. Caiff Robert Owen ei ystyried yn ‘dad’ y Mudiad Cydweithredol ac yn un o Gymry mwyaf enwog ei gyfnod. Mae ei etifeddiaeth yn berthnasol heddiw ac mae’n dal i gael effaith fawr ar y byd.

Ar adeg y Chwyldro Diwydiannol, roedd Robert Owen yn rhoi sylw i faterion fel addysg, diweithdra, tlodi a’r amgylchedd. Efallai bod cymdeithas yn fwy cymhleth yn awr, ond mae canfod ateb i’r pryderon economaidd a chymdeithasol hyn yr un mor bwysig heddiw.

Mae’r arddangosfa ar-lein hon yn archwilio perthnasedd ei syniadau a’i weithredoedd i faterion cyfoes yn y gymdeithas gan gynnwys cydweithrediad, dysgu gydol oes, cyfiawnder cymdeithasol a masnach deg. Mae'n cydredeg â'r arddangosfa gorfforol a fu ar daith ledled Cymru yn 2008 a 2009.

Bydd yr arddangosfa yn nigwyddiad Wales Smithsonian Cymru yng Ngwyl Bywyd Gwerin Smithsonian yn Washington DC rhwng 25 Mehefin a 5 Gorffennaf 2009.

Wyddoch chi...? Mai Robert Owen Dale, mab hynaf Robert Owen, gyflwynodd y mesur yn sefydlu Sefydliad Smithsonian yn 1846? Fel Seneddwr dros Indiana, gwasanaethodd Owen yn ddiweddarach fel cadeirydd Pwyllgor Adeilad Smithsonian. Sefydliad Smithsonian yn awr yw'r casgliad o amgueddfeydd mwyaf yn y byd.

 














































 

 

Ffotos Digwyddiadau

 

 
Mae'r arddangosfa ar gael i'w benthyca.

Os ydych am fenthyca'r arddangosfa a'r adnoddau dysgu sy'n cydredeg, cysylltwch â ni!